Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2021
Amser:
09.30 -
12.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12471
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Rebecca Nelson, Cyngor Celfyddydau Cymru Diane Hebb, Cyngor Celfyddydau Cymru Gillian Mitchell, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Lorne Campbell, National Theatre Wales Louise Miles-Payne, Creu Cymru Clara Cullen, Music Venues Trust Dyfrig Davies, TAC Pauline Burt, Ffilm Cymru Sara Pepper, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Rhun Davies (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
2 Ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru; Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; National Theatre Wales; a Creu Cymru.
2.2 Cytunodd cynrychiolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i'r sesiwn.
3 Ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth; TAC; Ffilm Cymru Wales; a Phrifysgol Caerdydd.
3.2 Cytunodd cynrychiolwyr Ffilm Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i'r sesiwn.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi ynghylch cyllid ar gyfer lleoliadau celfyddydol.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gyda chopi at Lywodraethau Cymru a'r Alban, ynghylch proses benodi Cadeirydd Ofcom.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y cymorth sydd ar gael i recriwtio Prif Weithredwr newydd.
7 Craffu cyffredinol: trafod yr ohebiaeth ddrafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd i ystyried gwelliannau y tu allan i'r cyfarfod hwn.
8 Ymateb i Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr - ystyried yr adroddiad drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar gynnwys y diwygiadau a ystyriwyd ac y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod hwn.